O na bawn yn fwy tebyg
I Iesu Grist yn byw,
Yn llwyr gysegru 'mywyd
I wasanaethu Duw:
Nid er ei fwyn ei hunan
Y daeth i lawr o'r ne';
Ei roi ei hun yn aberth
Dros eraill wnaeth efe.
O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe,
O na bawn i fel efe.
O na bawn yn fwy tebyg
Mewn gweddi i'r Iesu mad;
Enciliai ef i'r mynydd
I alw ar ei Dad;
Yng nghanol dwfn ddistawrwydd,
Ymhell o swn y dref,
Fe hoffai ddal cymundeb
Â'i Dad oedd yn y nef.
O na bawn fel yr Iesu
Yn llawn awyddfryd pur
I helpu plant gofidiau
Ac esmwytháu eu cur;
O na bawn fel yr Iesu
Yn maddau pob rhyw fai,
'Roedd cariad yn ymarllwys
O'i galon e'n ddi-drai.
- - - - -
O na bawn yn fwy tebyg
I f'anwyl Iesu gwiw,
Yn llwyr gysegru f'einioes
I wneud ewyllys Duw:
Nid er ei fwyn ei hunan
Y daeth i lawr o'r ne',
Ond llwyr aberthu ei hunan
Dros eraill wnaeth efe.
O na bawn yn fwy tebyg
Mewn gweddi i'r Iesu mad;
Enciliai ef i'r mynydd
I alw ar ei Dad:
Yng nghanol dwfn ddistawrwydd,
Heb lewyrch ond y ser,
Ymhell o swn y ddinas,
Mwynhai gymdeithas Ner.
O na bawn fel yr Iesu
Yn llawn awyddfryd pur
I helpu plant gofidiau,
Ac esmwytháu eu cur;
'Roedd cariad pur yr Iesu
Fel moroedd yn ddi-drai,
O na bawn debyg iddo,
Yn maddau pob rhyw fai.
Eleazar Roberts 1825-1912
Tôn [7676D + 7777]: |
O that I may more like
Jesus Christ live,
Completely consecrating my life
To God's service:
Not for his own sake
Came he down from heaven;
He gave himself as an offering
For others he did.
O that I may be like him,
O that I may be like him,
O that I may be like him,
O that I may be like him.
O that I may be more like
Good Jesus in prayer;
He would retreat to the mountain
To call upon his Father;
In the middle of deep quiet,
Far from the sound of the town,
He would enjoy keeping communion
With his Father who was in heaven.
O that I may be like Jesus
Full of pure eagerness
To help the children of worries
And relieve their blow;
O that I may be like Jesus
Forgiving every kind of fault,
Love was poured out
From his heart unebbingly.
- - - - -
O that I may be more like
My beloved, worthy Jesus,
Completely consecrating my lifespan
To do the will of God:
Not for his own sake
Did he come down from heaven
But completely to sacrifice himself
For others did he.
O that I may be more like
Virtuous Jesus in prayer;
He would retreat to the mountain
To call upon his Father:
In the midst of deep disquiet,
With no light but of the stars,
Far from the sound of the city,
He would enjoy the Lord's company.
O that I may be like Jesus
Full of pure eagerness
To help the children of griefs
And relieve their blow.
The pure love of Jesus was
Like seas unebbing,
O that I may be like him,
Forgivine every kind of fault.
tr. 2010,16 Richard B Gillion
|
|